Mae’r gobaith o gael gwasanaeth trên uniongyrchol o Aberystwyth i Lundain wedi cael dyrnod arall, meddai arbenigwr trafnidiaeth.
Mae’r ffaith fod cwmni Arriva Cymru wedi ei brynu gan Deutsche Bahn o’r Almaen yn gwneud gwasanaeth o’r fath yn llai tebyg, meddai Stuart Cole o Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg.
Gan bod Deutsche Bahn eisoes yn cynnal gwasanaeth o Wrecsam i Lundain trwy un o’i is-gwmnïau, mae’n annhebygol iawn y byddai’n creu gwasanaeth arall i gystadlu yn ei erbyn.
Roedd y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd eisoes wedi gwrthod cais gan Drenau Arriva Cymru i gynnal gwasanaeth uniongyrchol o’r Canolbarth i Lundain.
“Fydd Deutsche Bahn ddim yn edrych i greu gwasanaeth newydd i fynd yn erbyn y gwasanaeth o Wrecsam,” meddai Stuart Cole.
Gwell gwasanaeth?
Ond fe allai’r perchnogion newydd arwain at well gwasanaeth yng Nghymru. Mae gan Deutsche Bahn yr enw am wasanaethau glân a phrydlon.
Yr unig rwystr, meddai Stuart Cole, fyddai diffyg arian i’w fuddsoddi ar ôl prynu Arriva am fwy nag £1.5 biliwn.
Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Llywodraeth Cymru’n dilyn esiampl yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain ac yn codi arian ar Deutsche Bahn am yr hawl i gymryd trwydded Arriva.
Ar hyn o bryd, meddai Stuart Cole, mae Bae Caerdydd yn rhoi sybsidi o tua £140 miliwn y flwyddyn i’r cwmni er mwyn sicrhau gwasanaethau llawn.