Mae cyfreithiwr amlwg yn dweud bod y Dywysoges Diana wedi cael ei lladd er mwyn amddiffyn pobol yn y diwydiant arfau.
Mewn sgwrs yng Ngŵyl y Gelli, fe ddywedodd Michael Mansfield bod y Dywysoges wedi bwriadu datgelu gwybodaeth am gwmnïau Prydeinig oedd yn rhan o’r busnes creu bomiau tir.
“Dw i’n credu, ac mae tyst oedd yn ei hadnabod hi wedi hawlio, bod ganddi ddyddiadur ac roedd hi’n mynd i ddatgelu pwy oedd y bobol fwya’ amlwg yn y diwydiant arfau Prydeinig. Mae’n ymddangos i fi nad yw hynny’n amherthnasol i’w marwolaeth.”
Fe honnodd fod bocs o bapurau ar goll a allai gynnwys gwybodaeth allweddol – llyfr nodiadau, efallai, neu lythyrau rhyngddi hi a’r teulu brenhinol.
Roedd y digwyddiad pan gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad car ym Mharis yn 1997 yn “fwy na dim ond damwain”, meddai’r cyfreithiwr sy’n enwog am ymladd achosion annhegwch.
Nid marwolaeth ddamweiniol oedd penderfyniad y cwest, meddai wedyn, ond marwolaeth o oedd wedi ei achosi’n rhannol gan y paparazzi a cherbydau eraill – ond doedd neb yn gwybod pwy oedd yn rhai o’r cerbydau.
Llun: Y car wedi’r ddamwain (Llun o’r Cwest)