Fe fydd ymgyrch newydd yn dechrau heddiw i wneud i ddynion ymddwyn yn fwy parchus at ferched.
Y nod yw atal ymddygiad annerbyniol rhag troi’n rhywbeth llawer gwaeth, gan gynnwys trais.
Mae’r ymgyrch yn rhan o raglen Hawl i fod yn Ddiogel sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y Cynulliad i geisio atal trais yn erbyn menywod.
Fe fydd yr ymgyrch newydd yn cynnwys hysbysebion teledu ac mae yna wefan gyda chwestiynau ac atebion am y pwnc.
“Mae anghyfartaledd rhwng y rhywiau’n achosi trais ac yn ganlyniad i drais yn erbyn menywod,” meddai Paula Hardy, Prif Weithredwr Cymorth i Fenywod Cymru. “Mae’n allweddol mynd i’r afael ag agweddau cymdeithasol tuag at fenywod.”
Roedd hi’n dweud bod trais yn y cartref yn lladd dwy wraig bob wythnos yng Nghymru a Lloegr ond bod rhaid deall y trais yn ei gyd-destun.
Meddai’r Llywodraeth
“Ddylen ni ddim godde’ unrhyw ymddygiad sy’n bygwth merched,” meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant.
“Tra bod ambell i ystum neu sylw’n ymddangos yn ddigon diniwed, mi all wneud i ferch deimlo wedi ei cham-drin neu ei bygwth. Mae gan bawb yr hawl i fyw bywyd diogel a di-drais.”
Fe gafodd y rhaglen Hawl i Fod yn Ddiogel ei lansio ym mis Mawrth ac mae wedi ei chroesawu gan yr heddlu.