Fe fydd Cyngor Ceredigion yn cadw llygad ar y datblygiadau os bydd cwmni organig Rachel’s Dairy yn cael ei roi ar werth.
Mae pryder y gallai gael ei brynu gan fusnes mawr rhyngwladol arall a fyddai’n rhoi’r gorau i gynhyrchu ym mhencadlys y cwmni yn Aberystwyth, gan golli degau o swyddi.
Dyw’r perchnogion presennol, Dean Foods, ddim wedi cadarnhau’r stori ond y gred yw eu bod wedi rhoi cyfarwyddyd i gwmni ariannol Rothschild i wneud argymhelliad am ddyfodol Rachel’s, eu hunig fusnes yn y Deyrnas Unedig.
Bygythiad
“Pe byddai yna fygythiad, fe fyddai hwnnw’n bwysig iawn i economi bach,” meddai Arweinydd Cyngor Ceredigion, Keith Evans. “Ein gobaith ni yw y bydd pethau’n cael eu cadw ym.”
Mae mwy na 140 o bobol yn cael eu cyflogi yn y llaethdy yn Aberystwyth ond yr ofn yw y byddai prynwyr eisiau’r enw yn fwy na’r adnoddau.
Os bydd yn mynd ar werth, y disgwyl yn ôl arbenigwyr yw y byddai hynny am tuag £20 miliwn – mae cwmni Dean Foods wedi cael trafferthion masnachol yn yr Unol Daleithiau ac maen nhw’n ceisio torri’n ôl yno.
Fe fydd y Cyngor yn aros i weld beth sy’n digwydd, meddai Keith Evans, ac os bydd angen yn dwyn pwysau ar y Llywodraeth i ymyrryd. Fe fyddan nhw’n dadlau fod rhesymau da tros aros yng Ngheredigion.
‘Iach’
“Mae pobol yn fodlon talu am gynnyrch organig sy’n dod o gefn gwlad,” meddai. “Mae dod o le sy’n iach ac yn wyrdd bownd o fod yn ddeniadol.
“Mae yna weithwyr teyrngar, dibynadwy, yma hefyd ac mae hynny werth mwy nag arian.”
Mae Golwg360 yn deall nad oedd sylfaenwyr y cwmni, Gareth a Rachel Rowlands, sy’n parhau’n ymgynghorwyr iddo, wedi cael gwybod ymlaen llaw am y drafodaeth gyda Rothschild.
Y cefndir
Cwmni Rachel yw un o’r cwmnïau llaeth organig cynta’ yng ngwledydd Prydain.
Fe ddechreuodd gynhyrchu iogwrt a hufen yn nechrau’r 1980au ar fferm teulu Rachel Rowlands.
Fe gafodd ei werthu i gwmni Americanaidd Horizon yn 1999 ac yna gan Dean Foods yn 2004.
Dim ond yr iogwrt a’r cynnyrch hufen sy’n cael ei wneud yn Aberystwyth; mae’r menyn, er enghraifft, yn cael ei wneud yng Ngogledd Iwerddon.
Llun: Keith Evans