Mae gwledydd a mudiadau rhyngwladol ar draws y byd wedi bod yn ystyried sut i ymateb i ymosodiad gan Israel ar longau cymorth a oedd ar eu ffordd i Gaza.

Ddiwedd y dydd heddiw, roedd aelodau’r Undeb Ewropeaidd a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cynnal cyfarfodydd brys i drafod y digwyddiad pan laddwyd rhwng naw ac 16 o bobol.

Doedd yr union ffigwr ddim yn glir ond mae’r ddwy ochr wedi beio’r llall am ddechrau’r ymladd.

Yr hyn sy’n glir yw bod milwyr Israel wedi glanio ar y llongau oedd yn ceisio mynd â chymorth i’r Palesteiniaid yn Gaza trwy flocâd yr Israeliaid.

Yn ôl Israel, roedd y gwirfoddolwyr ar y llongau wedi ymosod arnyn nhw gydag arfau miniog, ond mae lluoedd arfog Israel wedi cael eu condemnio’n eang am ymateb trwy saethu.

Pryder a phrotestiadu

Mae yna bryder am ddinasyddion o wledydd Prydain ac Iwerddon a oedd yn rhan o’r ymgyrch gymorth i gyrraedd Gaza, sydd dan reolaeth mudiad Palesteinaidd Gaza. Roedd yna brotestiadau yng nghanol Llundain ddoe yn erbyn gweithred Israel.

Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, yw un o’r gwleidyddion sydd wedi galw am ymchwiliad llawn.

Roedd rhai o’r chwe chwch cymorth yn dod o Dwrci ac mae’r Llywodraeth yn o wedi ymateb trwy dynnu eu llysgennad o Israel.

Fe gafodd trais Israel ei gondemnio hefyd gan yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, a’r cyn Brif Weinidog, Tony Blair, sy’n dal i fod yn gennad heddwch yn y Dwyrain Canol ar ran y gwledydd mawr.

Llun: Protest yn Llundain yn erbyn ymosodiad Gaza