Mae enillydd Tlws y Prif Gyfansoddwr eleni, Arwel Rhys Williams o Gylch Llanelli, yn dweud mai stori Cantre’r Gwaelod sydd wedi ysbrydoli’r gwaith buddugol.
Dyma’r ail dro i Arwel Rhys Williams ennill y wobr ar ôl cipio’r teitl yn 2008. Roedd ennill adeg honno a chlywed ei waith yn “rhan o’r hyn a’i sbardunodd i gystadlu eto,” meddai wrth Golwg360.
“Roedd cael clywed fy ngwaith yn cael ei chwarae yn wych,” meddai cyn mynd ati i ddisgrifio’r darn sydd ychydig dros bum munud o hyd.
‘Cyfleu’r stori’
“Deuawd piano yw’r darn ac mae wedi’i seilio ar chwedl Cantre’r Gwaelod. Mae’r darn yn dilyn prif bwyntie’ y stori,” meddai cyn dweud ei fod o wedi cymryd wythnosau i’w gwblhau”.
Mae “cyfansoddi yn lot o waith” ond mae’n “talu’i ffordd”, meddai.
Ar hyn o bryd, mae Arwel Rhys Williams yn gweithio fel athro piano gyda phlant a phobl ifanc yng Nghanolfan Williams Mathias, Caernarfon.
Rhan o’r hyn sy’n bwysig iddo yw “ceisio ysbrydoli plant wrth fynd o amgylch ysgolion,” meddai.
Ychwanegodd mai ei brif ddylanwadau o ran cyfansoddwyr cerddoriaeth yw Bartok, Ligeti, Stravinsky a Janácek.
Aled Wyn Clark, Aelod Unigol o Gylch Rhuddlan, Sir Ddinbych ddaeth yn ail ac Ieuan Wyn o Aelod y Waun Ddyfal, Caerdydd yn drydydd.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd John Metcalf a Guto Pryderi Puw ac fe gafodd y Fedal ei rhoi gan Alan Wynne Jones ac Ann Jones, ynghyd â gwobr Glynne Jones o Gronfa Ymddiriedolaeth Pendyrus.