Mae swyddogion Cyngor Sir Benfro yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol ar ôl cynnal rêf anghyfreithlon dros y penwythnos.

Digwyddodd y parti yn ardal pentref Dale, ac yn ôl y BBC mae’r awdurdod yn ceisio casglu gwybodaeth am y trefnwyr â’r amcan o fynd a nhw i gyfraith.

Cau ffyrdd

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi gorfod cau ffyrdd yn arwain at y safle er mwyn rhwystro rhagor o bobol rhag cyrraedd.

Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw’n cadw llygad manwl ar y sefyllfa. Mae adroddiadau yn honni nad oedd unrhyw dai bach yn y digwyddiad, er bod hyd at 2,500 o bobol wedi mynd.