Judith Musker Turner, 17 oed, sydd wedi ennill y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno am yr eitem orau yn yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg o dan 18 oed.
Daw Judith Turner o Ffair Rhos ac mae’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Tregaron, Ceredigion.
“Rwy’n cael fy nylanwadu gan wahanol ddiwylliannau a chyfnodau o hanes, yn enwedig y byd clasurol,” meddai Judith Turner.
“Defnyddiais ‘Rhufain’ fel ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith TGAU. Gobeithiaf astudio Lladin i AS y flwyddyn nesa.
“Rwyf hefyd yn cael fy ysbrydoli gan waith arlunwyr a darlunwyr eraill, ac yn hoffi ymchwilio ac astudio cyfnodau gwahanol yn ymwneud â hanes Celf.
“Fy hoff arlunydd ydy Dante Gabriel Rossetti oherwydd rwy’n caru’r symbolaeth yn ei waith, a dwi’n ceisio rhoi ystyr a neges yn fy ngwaith fy hun. Dwi’n hoffi gweithio yn 3D oherwydd mae ansawdd yn elfen bwysig o waith tecstilau.”
Mae Judith Turner ym mlwyddyn 12 ac yn astudio Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Hanes a Thecstilau.
Mae hi’n gobeithio astudio cwrs Sylfaen Celf yng Nghaerfyrddin ar ôl gorffen ei Lefel A, ac yna efallai cyfuno ei diddordebau trwy fynd i brifysgol i astudio’r Clasuron.
“Rwy’n mwynhau chwarae’r soddgrwth, darllen a cheufadu yn fy amser rhydd,” meddai.
“Mae ennill Medal Gelf yr Urdd eleni yn anrhydedd mawr i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn i fy ysgol ac yn enwedig Mr a Mrs Williams, fy athrawon celf a thecstilau, am eu holl gefnogaeth yn yr ysgol.”
Rhoddir y Fedal Gelf eleni gan Glwb Cinio Aberystwyth.