Arwel Rhys Williams o Gylch Llanelli sydd wedi ennill Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 heddiw.

Mae Arwel wedi derbyn sawl llwyddiant ar lwyfan yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, gan gystadlu nifer o weithiau ar yr unawd piano. Ef gipiodd Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd Conwy 2008.

Derbyniodd Arwel ei addysg yn Ysgol Gynradd Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd y Strade cyn astudio Lefel A yng Ngholeg Gorseinon. Aeth yn ei flaen i dderbyn gradd mewn Cerdd ym Mhrifysgol Bangor.

Wedi graddio, dewisodd Arwel gwblhau gradd Feistr mewn Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Kinsgton, Llundain, cyn dychwelyd i Fangor i ddilyn cwrs i fod yn athro.

Un o brif ddiddordebau Arwel yw chwarae’r piano a’r organ a dywedodd ei fod o’n ddiolchgar tu hwnt i’r sawl a’i dysgodd i’w chwarae pan yn iau, sef Tydfil Rees Enston ar y piano ac Alan Fewster ar yr organ.

Heddiw, mae Arwel yn rhannu ei arbenigedd ar y piano gyda phlant a phobl ifanc yn wythnosol, a hynny yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.

Mae’n cynnal gwersi piano yn y ganolfan yng Nghaernarfon ac yn ymweld â nifer o ysgolion lleol fel athro teithiol.

Aled Wyn Clark, Aelod Unigol, Cylch Rhuddlan, Sir Ddinbych ddaeth yn ail ac Ieuan Wyn, o Aelod y Waun Ddyfal, Caerdydd yn drydydd.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd John Metcalf a Guto Pryderi Puw, a rhoddwyd y Fedal, Medal Goffa Grace Williams gan Alan Wynne Jones ac Ann Jones, ynghyd â gwobr Glynne Jones (£400) o Gronfa Ymddiriedolaeth Pendyrus.

Noddwyd y seremoni gan Gyngor Tref Aberystwyth.