Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Mae’r Iseldiroedd wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd dwywaith cyn colli. Allen nhw fynd cam ymhellach eleni?
Y Wlad
Poblogaeth: 16 miliwn
Prif iaith: Iseldireg
Prifddinas: Amsterdam
Arweinydd: y Prif Weinidog Jan Peter Balkenende
Llysenw: Oranje (yr oren)
Yr Hyfforddwr
Bert van Marwijk
Penodwyd van Marwijk i olynnu Marco van Basten yn hyfforddwr ar yr Iseldiroedd yn 2008. Dan ei arweiniad, enillodd yr Iseldiroedd bob un o’i gemau yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer 2010 gan ddilyn y traddodiad o chwarae pêl-droed deniadol a ddatblygwyd yn yr Iseldiroedd yn yr 1970au.
Y Daith
Go brin i unrhyw wlad gyrraedd y rowndiau terfynol mewn modd mor ddidrafferth â’r Iseldiroedd. Enillwyd pob gêm yn y grŵp, gan ildio dwy gôl yn unig. Sgoriwyd 17 gôl, gyda 11 chwaraewr gwahanol yn rhwydo, nodwedd o chwarae hyblyg yr Iseldirwyr.
Y Record
Yn 1974 collwyd yn y rownd derfynol yn erbyn pob disgwyl gyda Gorllewin yr Almaen yn fuddugol unwaith eto. Roedd y tîm y cyfnod hwnnw yn un arbennig am ei fod, dan ei gapten athrylithgar Johan Cruyff, yn chwarae pêl-droed ar lefel uwch nag a welwyd yng Nghwpan y Byd erioed o’r blaen. Yn 1978 roedd y tîm yn llythrennol o fewn trwch postyn i guro’r Ariannin yn y rownd derfynol, cyn colli unwaith yn rhagor.
Sêr o’r Gorffennol
Johan Cruyff: Un o’r chwaraewr gorau erioed, ef oedd capten ac ysbrydoliaeth yr Iseldiroedd yn oes ‘total football’. Sgoriodd 33 gôl mewn 48 gêm dros ei wlad a dros ddau gant o goliau i Ajax.
Dennis Bergkamp: Ystyrir ei gôl yn erbyn yr Ariannin yng Nghwpan y Byd 1998 yn un o’r goreuon erioed. Sgoriodd 37 o goliau dros ei wlad rhwng 1990 a 2000 ac 87 dros Arsenal, wedi iddo ymuno â’r clwb o Uwchgynghrair Lloegr yn 1996.
Gwyliwch Rhain
Wesley Sneijder: yn nhraddodiad chwaraewyr canol cae’r Iseldiroedd, mae Sneijder yn ddewin gyda’r bêl wrth ei draed. Bellach mae’n chwarae i Internazionale Milan wedi cyfnodau gydag Ajax a Real Madrid.
Dirk Kuyt: mae’r blaenwr egnïol yn ffefryn gyda chefnogwyr Lerpwl a’i wlad. Sgoriodd deirgwaith yn y rowndiau rhagbrofol.
Y Seren
Klaas-Jan Huntelaar: Mae blaenwr tal AC Milan wedi sgorio’n gyson dros Ajax, Real Madrid a’i glwb presennol. Ar hyn o bryd mae ei record ryngwladol o sgorio un ym mhob dwy gêm yn cadarnhau’r farn ei fod ymhlith y goreuon yn y cwrt cosbi. Sgoriodd yn erbyn yr Alban, Gwlad yr Iâ a Macedonia yn y rowndiau rhagbrofol.