Mae o leiaf 45 o bobol wedi marw ar ôl i’w bws wyrdroi yn Cameroon yng ngorllewin Africa yn ystod taith dros nos.
Dywedodd y swyddog ardal Mamadou Balla bod y gyrrwr wedi cwympo i gysgu tra’r oedd y bws yn teithio’n gyflym.
Disgynnodd y bws, oedd yn cario tua 60 o deithwyr, wrth gyrraedd cornel siarp yn y lon.
Daeth pentrefwyr o hyd i ddifrod y bws heddiw.
Roedd y teithwyr ar eu ffordd i’r brifddinas Yaounde pan chwalodd y bws ger pentref Etoundou, tua 80 milltir i’r gogledd-orllewin.