Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn farw yng Nghaernarfon ar ôl tân mewn fflat yn y dref yn oriau man fore Sul.
Dechreuodd y tân am tua 2:45am uwchben siop gwerthu papurau newydd yn Stryd y Llyn.
Yn ôl adroddiadau, roedd criw o’r gwasanaeth tân wedi mynd i mewn i’r adeilad ac wedi tywys dwy wraig allan.
Roedd criw arall wedi llwyddo i ddod â’r dyn allan, ond bu farw o’i anafiadau yn y fan.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi cychwyn ymchwiliad, ond dyw’r digwyddiad ddim yn cael ei ystyried i fod yn un drwgdybus.