Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal protest ar faes Eisteddfod yr Urdd Ceredigion bnawn yma i brotestio yn erbyn cau ysgolion yn y sir.

Ond maen nhw yn wynebu beirniadaeth gan Gyngor Sir Ceredigion am ddefnyddio plant fel rhan o’r brotest.

Cymerodd y brotest ffurf helfa drysor, gyda degau o rieni a’u ‘môr-ladron’ ifanc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion.

Amcan y brotest oedd ymgyrchu i gadw “trysorau ysgolion pentref y mae môr-ladron Ceredigion yn ceisio eu dwyn”.

Galwodd Cymdeithas yr Iaith swyddogion Ceredigion yn “fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar gymunedau”.

‘Pryder’

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion, Eifion Evans, ei fod o’n pryderu ynglŷn â defnyddio plant fel arf ymgyrchu.
“Rydw i’n bryderus eu bod nhw’n defnyddio plant ar gyfer gwneud datganiad gwleidyddol,” meddai Eifion Evans wrth Golwg360.

“Plant yw trysor Ceredigion,” meddai cyn dweud nad ydi o’n “cefnogi defnyddio plant yn y modd yma” a bod defnyddio plant fel rhan o’r brotest yn “siomedig braidd”.

“R’yn ni moyn rhoi’r addysg gorau i blant Ceredigion,” meddai.

‘Unllygeidiog’

Dywedodd Angharad Clwyd o Bontyweli, trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, mai datganiad symbolaidd oedd gwisgo’r plant fel môr-ladron.

“Mae’r plant wedi eu gwisgo fel môr-ladron unllygeidiog i symboleiddio mai dim ond un ateb mae swyddogion Ceredigion yn gallu ei weld, sef cau ein hysgolion a chanoli addysg,” meddai.

“Mae yna fygythiad i o leiaf 15 o ysgolion pentref Ceredigion, ac mae hyn yn rhan o broblem sy’n fygythiad i’n cymunedau gwledig Cymraeg trwy gydol y wlad.”

Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wrth Golwg360 fod yr ysgolion pentref yn bwysig er mwyn cynnal cymunedau.

“Mae lot o rieni yma’n ddi-gymraeg heddiw. Mae’r ysgolion pentref yn bont rhyngddyn nhw a’r gymdeithas Gymraeg,” meddai.

Ychwanegodd bod ysgolion pentref yn “ffordd o dynnu pobol i mewn i Gymreictod”.

“Rydan ni’n teimlo fod ysgolion pentrefol yn werthfawr o ran cymunedau iach Gymraeg,” meddai gan ddweud fod yna “deimladau cryf ynglŷn â’r peth”.

Ychwanegodd Ffred Ffransis, ymgyrchydd blaenllaw dros Gymdeithas yr Iaith, nad oedd “môr-ladron yn y Cyngor Sir ddim yn gweld problem gyda gwario arian ar adeiladau newydd llewyrchus ar gyfer swyddogion yr awdurdod yn Aberystwyth”.

Ond roedden nhw’n “safio ychydig iawn o arian trwy gau ysgolion pentrefol,” meddai. Roedd hynny’n adlewyrchu meddylfryd “biwrocrataidd a thwp” meddai.