Gwylio Soffa Siarad – yn fyw o’r maes!

Ydych chi’n sownd yn y swyddfa heddiw yn hytrach nag allan ar y maes yn mwynhau’r haul?

Mae Coleg Prifysgol y Drindod yn cynnig cyfle i chi ymuno yn yr hwyl drwy ddarlledu o’r maes drwy gydol yr wythnos ar y we.

Nod y gwe-ddarllediad Soffa Siarad fydd rhoi golwg arall ar ddigwyddiadau difyr a chyffrous o’r maes.

Mae’r rhaglen wedi ‘i chreu gan fyfyrwyr Coleg Prifysgol y Drindod a disgyblion Ysgolion Uwchradd Aberteifi a Dyffryn Teifi, gyda chymorth Uned Darlledu Allanol y Ganolfan Gyfryngol, Prifysgol Cymru, Llambed.

Fe fydden nhw’n darlledu yn fyw o Lanerchaeron o 3.45 tan 4.45 o ddydd Llun tan ddydd Gwener yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.

Cliciwch ar http://www.ydrindoddewisant.ac.uk/eisteddfod i weld y we ddarllediad.

Ariennir drwy Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Partneriaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru.