Bydd cwrs opera adnabyddus a sefydlwyd gan y seren opera o Gymro, Dennis O’Neill, yn dod i ben eleni.

Yn ôl adroddiadau, mae’r Academi Llais Rhyngwladol wedi colli’r nawdd yr oedd yn ei dderbyn gan Brifysgol Caerdydd, yn sgil pwysau ariannol yn ystod y cyfnod economaidd bregus.

Mae’n bosib y bydd yr Academi’n symud i sefydliad arall, ond mae’n annhebygol y bydd hyn yn digwydd cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd y Western Mail, ni fydd myfyrwyr sydd yno ar hyn o bryd yn gallu parhau i astudio yn y flwyddyn academaidd newydd, ac ni fydd y sawl sydd i fod dechrau eu cyrsiau bryd hynny yn gallu gwneud hynny.

Sefydlwyd yr Academi yn 2007. Roedd y cwrs wyth mis yn datblygu sgiliau cantorion opera ar gyfer y llwyfan rhyngwladol.

(Llun: O wefan yr Academi Llais)