Mae Gleision Caerdydd wedi arwyddo’r asgellwr Michael Paterson o dim Hurricanes y Super 14 ar gytundeb tair blynedd.
Roedd Michael Paterson dan ystyriaeth fel aelod o sgwad y Crysau Duon eleni ond fe fydd arwyddo i dîm y tu allan i’r wlad yn atal hynny rhag digwydd.
Mae hefyd yn golygu y gallai Michael Paterson chwarae i Gymru pe bai’n aros gyda’r rhanbarth yn ddigon hir.
Fel canlyniad dydi ei arwyddo ddim yn torri’r ‘cwota’ chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae dros Gymru y mae’r rhanbarthau wedi cytuno iddo gydag Undeb Rygbi Cymru.
“Rydw i’n edrych ymlaen at y cyfle i chwarae gyda’r holl hogiau eraill o Seland Newydd sydd yn nhîm Caerdydd,” meddai Michael Paterson.
Dywedodd Michael Paterson wrth wefan Stuff.co.nz ei fod o wedi dioddef o “nosweithiau di-gwsg” dros yr wythnosau diwethaf wrth iddo ddod i benderfyniad.
Mae o wedi bod gyda’r Hurricanes ers tri tymor ond fe wnaethon nhw orffen yn wythfed yng nghystadleuaeth y Super 14 eleni.
Mae yna ansicrwydd a fydd kiwi arall blaenllaw’r Gleision, Xavier Rush, yn gadael y rhanbarth er mwyn ymuno gydag Ulster flwyddyn nesaf.