Roedd ansicrwydd ynglŷn â chanlyniad yr etholiad cyffredinol wedi arafu’r farchnad dai yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai, honnwyd heddiw.

Roedd prynwyr a gwerthwyr wedi dal yn ôl yn ystod y mis meddai’r cwmni adolygu eiddo, Hometrack.

Yn ôl eu hymchwil:

• Dim ond cynnydd o 0.2% a welwyd mewn prisiau tai.

• Hanerodd graddfa’r bobol wnaeth gofrestru â gwerthwyr tai.

• Dim ond cynnydd o 1.8% a welwyd mewn pobol yn rhoi eiddo ar y farchnad, o’i gymharu â chynnydd o 3.7% ym mis Ebrill.

Gwelwyd cynnydd o 2% yn nifer y tai a werthwyd. Ond roedd y cynnydd yma’n dipyn is na’r cynnydd misol o 10% ar gyfartaledd dros y tri mis diwethaf.

Mae’r ffigurau’n dangos bod “ansicrwydd yr etholiad cyffredinol” wedi effeithio’r farchnad dai, yn ôl Richard Donnell, cyfarwyddwr ymchwil Hometrack.