Eisteddfod yr Urdd oedd y cam cyntaf tuag at yrfa Tara Bethan fel cantores a chyflwynwraig, meddai hi.

Dywedodd mai ennill cystadleuaeth Unawd Sioe Gerdd yr ŵyl wnaeth iddi sylweddoli mai ar y llwyfan oedd ei lle hi.

“Yr uchafbwynt oedd ennill cyntaf yn yr Unawd Sioe Gerdd yn 15 mlwydd oed – yn y gystadleuaeth dan 25 mlwydd oed,” meddai.

“Dw i’n cofio gofyn – be ‘dw i’n neud? Roedd pawb yn edrych yn hŷn ac yn broffesiynol. Roedd o’n brofiad hollol wych ac annisgwyl hefyd. Dyna o bosibl y peth ydw i’n fwyaf balch ohono,” meddai.

“Ges i ddim fy ngeni gyda llais da ond dw i’n gwybod sut mae perfformio cân. Roeddwn i’n credu fy mod i wedi dod o hyd i fy niche i wedyn.

“Fe wnes i ddathlu go iawn ar ôl ennill y gystadleuaeth. Ges i feirniadaeth mor glên. Fe ddywedodd y beirniad mai ar y llwyfan yr oedd fy lle i.”

Dywedodd Tara Bethan na fyddai wedi llwyddo cystal heb ei hathrawon canu, Gwen a Rhys Parry Jones, rhieni’r gantores enwog Caryl Parry Jones.

“Roedd gen i glust dda – ond roedd fy llais yn wan i ddechrau. Roeddwn i’n treulio oriau’n gwneud scales gyda Gwen a Rhys – ac mae o’n sicr wedi helpu…”

‘Platfform unigryw’

Fe ddechreuodd y gantores ifanc gystadlu yn yr Urdd yn saith mlwydd oed. Dawnsio disgo oedd ei diddordeb cyntaf cyn mynd ymlaen i lefaru, i gystadlu yn yr alaw werin a cherdd dant.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn blatfform perfformio unigryw i blant Cymru. Does gan lot o bobl ddim yr un cyfle,” meddai.

“Er fy mod i’n berson cystadleuol iawn doeddwn i byth yn dda am bethau fel chwaraeon! Perfformio a cherddoriaeth oedd yn dod yn naturiol i fi.

“Mae’r busnes rydw i ynddo nawr yn un cystadleuol iawn hefyd, felly mae’r Urdd yn lle da i ddechrau a phenderfynu a ydi’r diwydiant yn addas i chi. Ac mae o hefyd mae o’n hwyl!”

“Mind over matter ydi o. Mae’n bwysig fod rhywun yn credu yn beth maen nhw’n ei wneud.”

‘Y Cylch Reslo’

Ar hyn o bryd, mae’r gantores yn cymryd “hoe” ac yn dysgu ‘r grefft o “gyflwyno yn y cylch reslo”.

“Mae’n ffordd neis o allu cario rhywbeth ymlaen,” meddai’r gantores a gollodd ei thad, y reslwr enwog Orig Williams, y llynedd. “Dw i wedi gwylio reslo trwy gydol fy mywyd.”