Dyw cau ysgolion bach gwledig ddim yn arbed arian mawr, honnodd llefarydd yr wrthblaid ar addysg heddiw.
Cyfeiriodd Aelod Cynulliad Preseli Penfro, y Ceidwadwr Paul Davies, at adroddiad ynglŷn â chost ysgolion cynradd yng Nghymru gan y sefydliad, Hyrwyddo Ysgolion Bach fel prawf o hynny.
Un o gasgliadau’r adroddiad yn ôl Paul Davies, oedd bod y gost o gadw ysgolion bach ar agor yn weddol isel.
“Pe bai’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cau pob un ysgol lle mae yna lai na’ 90 disgybl, dim ond 2% o gyllideb ysgolion cynradd Cymru fyddai’n cael ei arbed.”
‘Angen ystyried hyn’
Mae Paul Davies wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried canfyddiadau’r adroddiad.
“Mae ad-drefnu ysgolion mewn rhai rhannau o Gymru yn achosi cryn bryder i rieni ac i gymunedau,” meddai.
“Rydw i’n credu y dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried y canfyddiadau yma, ac y dylai’r Gweinidog Addysg wneud datganiad ar y mater o ad-drefnu ysgolion.”
Y cwmni Cambridge Policy Consultants wnaeth y gwaith ymchwil ar gyfer Hyrwyddo Ysgolion Bach.