Bydd gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.com yn cyhoeddi papur dyddiol print yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron eleni.
Fe fydd yn rhoi newyddion a lluniau o’r maes a blas o’r holl amrywiaeth o straeon sy’n cael eu cyhoeddi ar y gwasanaeth ar-lein bob dydd.
Mae gwasanaeth Golwg360 erbyn hyn yn flwydd oed ac yn cyhoeddi rhwng 30 a 40 o straeon bob dydd. Y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw clicio ar www.golwg360.com.
“Rydym yn falch iawn o’r gwasanaeth newyddion ar Golwg360 ac eisiau i bawb ddod i wybod amdano a’i fwynhau – yn enwedig gan ei fod yn gwbl rhad ac am ddim,” meddai Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone.
“Mi fyddan nhw’n gweld bod y gwasanaeth Cymraeg yma yn cynhyrchu cymaint o straeon ag y byddai papur dyddiol, efo adrannau sy’n cynnwys newyddion Cymru, gwledydd Prydain a’r byd, chwaraeon a chelfyddydau o bob math.
“Crynodeb o’r straeon tros nos fydd yn y papur, sy’n cael ei ddosbarthu bob bore, ond fe fydd cyfle i bawb weld y straeon i gyd yn llawn ar sgrîn ar y maes.
“ Mae Golwg360 hefyd yn cydweithio gyda’r Urdd i gynnwys rhestr o weithgareddau dyddiol maes yr Eisteddfod, ac fe fydd y wefan ei hun yn cynnwys adran newyddion yr Eisteddfod gyda dolen i weld lluniau byw, gwe-ddarllediad byw dyddiol o’r maes ac wrth gwrs yr holl ganlyniadau.
“Mae hynny’n tanlinellu’r neges fod Golwg360 yn wasanaeth newyddion Cymraeg trwy’r dydd, bob dydd, sy’n hwdd ei gael lle bynnag y mae cysylltiad â’r We. Mi fydd yn dangos hefyd ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac am ddim.”
Bydd Steddfod360 yn cael ei gyhoeddi gyntaf ddydd Llun 31 Mehefin, gyda rhifynnau dyddiol weddill wythnos yr Eisteddfod. Bydd y papurau’n cael eu dosbarthu o Ganolfan Groeso Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron trwy gydol yr wythnos.