Y ‘cyntaf i’r felin’ fydd yn cael prynu piano arbennig cwmni o Abertawe y mae’r gantores enwog Alicia Keys wedi’i chwarae.

Mae’r piano cyfoes blastig yn cael ei harddangos yng nghyntedd Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron.

Fe gafodd y piano ei harchebu a’i llwytho ar lori ar gyfer taith Ewrop Michael Jackson – ond ni chafodd y piano ei defnyddio ar ôl iddo farw’n sydyn.

Yna cafodd ei harchebu gan sioe deledu boblogaidd yr X factor, a’i chwarae gan Alicia Keys yn ystod y gyfres.

Fe aeth y gantores mor bell a sgwennu llythyr i’r cwmni yn ‘diolch am gael ei defnyddio’.

Cost wreiddiol y piano oedd £19,995, ond mae pris isel arbennig o £14,995 arni, a’r cyntaf i’r Felin fydd yn cael prynu’r piano arbennig.

“Mae’r piano wedi cael lot fawr iawn o sylw,” meddai Gerallt Lewis sy’n tiwnio ac yn arddangos y pianos ar ran cwmni Coach House o Abertawe.

Er bod llawer yn ei hoffi’n arw, mae ambell un wedi dweud “ych a fi” wrth ei weld, meddai wrth Golwg360.