Bydd criwiau caban BA yn pleidleisio am fwy o weithredu diwydiannol wrth i’w cweryl chwerw gyda’r cwmni awyrennau fygwth achosi oedi i deithwyr drwy gydol yr haf.
Dywedodd Tony Woodley, arweinydd ar y cyd Unite, y bydden nhw’n pleidleisio rywbryd wythnos nesaf, wrth i aelodau’r undeb ddechrau streicio o’r newydd heddiw.
Mae staff BA eisoes wedi bod ar streic ers 14 diwrnod ac fe allai’r gweithredu diwydiannol gostio £90 miliwn i’r cwmni, meddai Unite. Bydd pob dydd ychwanegol o streicio yn costio £7 miliwn arall.
Fe fydden nhw’n streicio drwy gydol yr wythnos yma ac yr wythnos nesaf os nad ydi Unite a BA yn dod i gytundeb.
Wrth siarad yng nghynhadledd Unite ym Manceinion dywedodd Tony Woodley y byddai ymgais prif weithredwr BA, Willie Walsh, i “actio’n tyff” yn arwain at haf “gwbl ddiangen” o oedi.
Pe bai angen i Unite ofyn am fandad newydd i weithredu’n ddiwydiannol fe fyddai’r bai yn “gyfan gwbl” ar Willie Walsh a’r ffaith ei fod o’n “mynnu peidio” dod i gytundeb, meddai.
Dywedodd Unite eu bod nhw a BA eisoes wedi dod i gytundeb ynglŷn â chostau ac oriau gweithio criwiau caban.
Asgwrn y gynnen erbyn hyn oedd cweryl ynglŷn â chonsesiynau teithio gweithwyr oedd wedi bod ar streic, meddai nhw.
“Dim ond un peth sydd i’w wneud gyda bwlis – peidio â gadael iddyn nhw gael y gorau ohonoch chi tan eu bod nhw’n dysgu sut i fihafio,” meddai Tony Woodley.
BA yn dal i hedfan
Mynnodd BA eu bod nhw wedi hedfan mwy o deithwyr na’r disgwyl ddoe, gan gynnwys pob awyren o Heathrow i faes awyr JFK Efrog Newydd.
“Mae ein gweithredoedd byd-eang wedi ymdopi’n dda iawn gydag wythnos gyntaf streic Unite ac rydan ni wedi dechrau’n dda’r wythnos hon,” meddai llefarydd ar ran BA.
“Mae mwy o’r criw wedi dechrau dod yn ôl i’r gwaith felly rydan ni wedi gallu hedfan mwy o bobol o Heathrow nag oedden ni wedi disgwyl.”