Mae Llywydd yr Urdd wedi dweud fod safon y cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod yn llawr uwch na’r X Factor neu Britain’s Got Talent.
Mae Edryd Eynon, Athro yn Ysgol Bro Brynach, Llanboidy, wedi bod yn llywydd ers mis Tachwedd y llynedd.
“Hon ydy’r wythnos pan mae’r Urdd yn llygaid y cyhoedd, ac rwy’n hyderus y bydd yr Eisteddfod eleni yn llwyddiannus iawn o ganlyniad i waith caled y bobl leol, a bydd gwir dalentau plant a phobl ifanc Cymru yn cael eu harddangos ar lwyfan yr Urdd – gwell talent na welwch chi ar unrhyw raglen deledu fel The X Factor neu Britain’s got Talent!” meddai.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Beca, Efail Wen ac Ysgol y Preseli mae’n hen gyfarwydd â chystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, a’r uchafbwynt oedd ennill y Chwarter Awr o Adloniant gydag Adran Ffynnon Wen yn 1998.
Erbyn hyn mae’n un o arweinwyr yr Adran, ac er na fu Ffynnon Wen yn llwyddiannus eleni, mae’n edrych ymlaen at weld cystadlaethau amrywiol yr adrannau a’r ysgolion sy’n cynrychioli Sir Benfro a Chylch Cwm Taf.
“Dwi’n edrych ymlaen at wythnos lawn iawn,” meddai. “Arwain seremoni Tlws John a Ceridwen ar nos Iau yw’r prif ddyletswydd yn yr Eisteddfod, a bydd hi’n anrhydedd i gael gwobrwyo gwirfoddolwr sy’n gweithio’n ddiwyd i ddatblygu’r Urdd.
“Mae sawl derbyniad yn ystod yr wythnos, ac rwy’n edrych ymlaen at grwydro’r Maes. Bydd plant Ysgol Bro Brynach yn cystadlu ddydd Mawrth yng nghystadleuaeth y Parti Deulais ac felly byddaf yn brysur yn helpu’r brifathrawes i’w paratoi yfory.”
Is Lywyddion yr Urdd eleni yw Eirian Jones o Ynys Môn a Bethan Mair Williams o Gaerdydd.
Haul drwy’r wythnos!
Mae un o atyniadau newydd Eisteddfod yr Urdd eleni yn gaddo haul drwy gydol yr wythnos i bobol sy’n mynychu’r maes.
Yn dilyn llwyddiant ‘Gwychoniaeth’ (Bysgio Ffiseg) yn yr ŵyl y llynedd, mae’r Urdd wedi agor pafiliwn newydd eleni, sef GwyddonLe.
A beth bynnag y tywydd, bydd yr haul yn gwenu yn y pafiliwn gwyddoniaeth fel rhan o fodel wrth raddfa o gysawd yr haul, wedi ei greu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Dihewyd.
Bydd lawnsiad GwyddonLe am 12:30yp ddydd Mercher (2 Mehefin), ond bydd yr Haul yn cael ei oleuo yfory am 10:00yb, gan y darlledwr a’r ffisegwr Dafydd Du.
Dywedodd Angharad Thomas, Is-gadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth 2010 eu bod nhw’n awyddus i ledaenu eu neges ledled Ceredigion.
“Buom yn ymweld ag ysgolion gan annog disgyblion i edrych ar wyddoniaeth drwy lygaid newydd. Er enghraifft yn Ysgol Cwrtnewydd cyfunwyd gwyddoniaeth a dawns,” meddai.
“Yn dilyn sesiwn casglu gwybodaeth am Gysawd yr Haul, bu’r plant yn gweithio gyda’r coreograffydd Jên Angharad i lunio dawns o’r enw Gwyddonddawns. Bydd y ddawns yn cael ei pherfformio yn y pafiliwn dawns yfory am 3:00 o’r gloch.”
Ceufadu o amgylch Cymru!
Heddiw, bydd tri o swyddogion gweithgareddau awyr agored yr Urdd, sydd wedi eu lleoli yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn ger y Bala, yn dechrau ar daith go anghyffredin.
Bwriad y tri yw ceufadu o amgylch Cymru mewn tair wythnos gan fordwyo o amgylch glannau Cymru, i’r Afon Ddyfrdwy, i lawr yr Afon Hafren ac yn ôl allan i Fôr Hafren. Bydd y daith yn dechrau yn harbwr Aberaeron, ger maes Eisteddfod yr Urdd eleni.
Mae Arwel Phillips, Alun Pugh a Hefin Peregrine wedi bod yn paratoi ac yn ymarfer i’r daith ers misoedd lawer. Mae’r tri yn staff llawn amser yn y Gwersyll ac wrth eu boddau yn gweithio yn yr awyr agored.
Prif nod y daith yw codi proffeil Gwersyll Glan-llyn, a’i diwtoriaid proffesiynol awyr agored Cymraeg eu hiaith. Fe fydd y daith hefyd yn codi arian i’r Ambiwlans Awyr.
Yn ystod y daith tair wythnos, bydd dau o Swyddogion awyr agored newydd Urdd Gobaith Cymru, sy’n cael eu hariannu fel rhan o gynllun Llwybrau i’r brig, Llywodraeth y Cynulliad, yn tiwtora ieuenctid ar sgiliau canŵio a cheufadu ar hyd a lled Cymru.
Bydd grwpiau bychain o blant a phobl ifanc yn derbyn hyfforddiant arbenigol mewn chwaraeon dŵr, yn derbyn gwybodaeth ynglŷn â phosibiliadau gyrfaoedd yn y diwydiant awyr agored a hefyd yn derbyn gwybodaeth ynglŷn â chlybiau gweithgareddau awyr agored lleol ledled Cymru.
Yn ôl Arwel: “Mae Alun, Hefin a minnau yn hynod o lwcus i gael cymorth a chyngor y ceufadwr profiadol Ray Goodwin, i’n harwain ar y daith. Ray oedd y canwiwr cyntaf i fordwyo Cymru ac ef hefyd oedd y cyntaf i ganŵio ar draws Môr Iwerddon.
“Roedd y daith honno, rydyn ninnau bellach wedi ei chyflawni, yn daith 78 milltir a barodd 21 awr mewn caiac. Bydd y daith hon yn gwbl wahanol.
“Bydd y daith oddeutu 650 milltir ac rydyn ni’n amcangyfrif teithio hyd at 40 milltir y diwrnod, a bydd modd i ni gael seibiant i gysgu, bwyta ac yfed wrth ddod i’r lan yn ystod y nos.
“Rydyn ni’n gobeithio cwblhau’r daith mewn 21 diwrnod. Dwi’n meddwl y byddwn angen ymroddiad llwyr a phenderfyniad yn hytrach na ffitrwydd gyda’r daith hon. Yn sicr, dwi’n edrych ymlaen at y sialens!”