Mae nifer y dynion sy’n marw o ganser y croen wedi mwy nag dyblu dros y 30 mlynedd diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Ymchwil Canser y DU.

Yn y 1970au hwyr roedd llai nag 400 o ddynion yn marw bob blwyddyn o melanoma, ffurf fwyaf marwol y clefyd, ond erbyn hyn mae 1100 yn marw bob blwyddyn.

Mae canser y croen yn afiechyd syml i’w atal ac mae arbenigwyr yn pryderu ynglŷn â beth sy’n gyfrifol am y cynnydd.

Mae mwy o ferched na dynion yn cael canser y croen ond mae nifer y merched sy’n ei gael o’n cynyddu’n arafach, o 1.5 allan o bob 100,000 o bobol i 2.2 ers y 1970au hwyr.

Yn ôl Ymchwil Canser y DU mai’n bosib mai amharodrwydd dynion i fynd i weld eu meddyg teulu pan maen nhw’n gweld symptomau sy’n gyfrifol am y cynnydd mawr.

“Er bod mwy o ferched yn cael yr afiechyd, mae mwy o ddynion yn marw ohono,” meddai Caroline Cerny o Ymchwil Canser y DU.

“Mae hynny’n awgrymu naill ai nad ydi dynion yn ymwybodol o’r symptomau neu eu bod nhw’n eu hanwybyddu nhw ac yn oedi mynd i weld y meddyg teulu.

“Mae’n hanfodol fod pobol yn mynd i weld eu doctoriaid cyn gynted ag y maen nhw’n gweld unrhyw newid i’w croen. Y cynharaf mae’r doctor yn dod o hyd i’r canser y hawsaf fydd o i’w drin.”