Huw Prys sy’n gofyn, pwy sydd eisiau refferendwm yn yr hydref?
Ydi’r gwleidyddion yma’n byw yn y byd go-iawn?
Dyna oedd yn mynd trwy fy meddwl wrth wrando ar y dadlau parhaus drwy’r wythnos ddiwethaf ar bwnc dyddiad refferendwm ar bwerau deddfu i’r Cynulliad.
Y newid agwedd rhyfeddol ymysg ASau Llafur sydd wedi bod fwyaf trawiadol. Mae rhai a oedd ar y gorau’n llugoer i’r syniad o fwy o bwerau i’r Cynulliad yn sydyn ar dân am refferendwm ar unwaith. Anodd iawn ydi cymryd agwedd y bobl yma o ddifrif.
Ar yr un pryd, mae llawer o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru’n ymddangos yr un mor rhyfedd o bedantig eu hagwedd. Mae fel petai rhai ohonyn nhw’n ystyried cefnogaeth i refferendwm ar unwaith fel rhyw fath o brawf ar Gymreictod.
Ond pwy yn ei iawn bwyll sydd eisiau refferendwm yn yr hydref? Beth ar y ddaear ydi’r brys? Mae’r cyhoedd wedi hen ‘laru ar etholiadau.
Ac os mai gêm wleidyddol yn unig ydi hyn, pa fantais i neb ydi cael rhyw fath o phoney war ar y pwnc rhwng Llundain a Chaerdydd ar hyn o bryd?
Lle mae Plaid Cymru yn y cwestiwn, mae’n amheus iawn a ydi’r ACau sydd ar dân am refferendwm cynnar yn siarad ar ran aelodau a phleidleiswyr cyffredin y Blaid ar y mater. Ac yn sicr, dydi mynd o flaen camera teledu’n ailadrodd y gair ‘refferendwm’ fel tiwn gron ddim yn ffordd o gael etholwyr cyffredin i gynhesu atyn nhw.
Mi fyddwn i’n awgrymu y byddai’n gwneud byd o les i’r gwleidyddion yma dreulio awr neu ddwy yn curo drysau yn esbonio pam y dylai gwleidyddion yng Nghaerdydd gael mwy o bwerau. Efallai y byddai hynny’n dangos maint yr her sydd o’u blaenau o safbwynt ennyn diddordeb y cyhoedd mewn materion cyfansoddiadol.
A chymryd bod refferendwm yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, y dyddiad amlwg i’w gynnal fyddai diwrnod etholiad y cynulliad. Mi fyddai’n ffordd o help sicrhau cyd-destun call i’r ddadl, yn un peth. Ac mae’r arian a fyddai’n cael ei arbed trwy gynnal y ddwy bleidlais yr un diwrnod yn ddigon o reswm ynddo’i hun yn y dyddiau sydd ohoni o doriadau ariannol.
Byddai unrhyw wario diangen yn bropaganda ar blat i wrthwynebwyr datganoli. Mae rhywun yn clywed eu dadleuon rwan – oni fyddai’n well gwario’r miliynau yma ar gyflogi rhagor o nyrsys?
Yn lle crochlefain yn barhaus dros refferendwm buan, mae’n hen bryd i gefnogwyr datganoli ganolbwyntio mwy o’u sylw ar ennill refferendwm o’r fath. Does dim byd haws na chael refferendwm – ei ennill fydd y gamp.