Mae Palas Buckingham wedi gofyn i’r Llywodraeth glymblaid newydd am fwy o arian ar gyfer y Teulu Brenhinol.

Mae’r Llywodraeth yn rhoi arian i’r Frenhines bob blwyddyn fel ei bod hi’n gallu cyflawni ei swydd.

Dros yr wythnosau diwethaf mae Trysorydd y Frenhines, Syr Alan Reid, wedi dweud wrth swyddogion y llywodraeth bod y Frenhines yn gwario tua £7 miliwn yn fwy nac y mae hi’n ei gael.

Mae’r gwahaniaeth yn cael ei dalu amdano gan gronfa wrth gefn y Frenhines ond mae disgwyl i’r “arian argyfwng” hwnnw ddod i ben yn 2012.

Mae’r Frenhines wedi bod yn cael £7.9 miliwn bob blwyddyn ers 20 mlynedd gan y llywodraeth.

Yn ôl Palas Buckingham mae’r Frenhines angen codiad cyflog sydd o leiaf yn cydfynd â chwyddiant dros y ddau ddegawd diwethaf.

Maen nhw’n dadlau bod nifer o blastai’r Frenhines yn disgyn yn ddarnau am nad oes ganddyn nhw’r arian i’w hadfer nhw.

Bydd disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi faint fydd y Frenhines yn ei gael ar Fehefin 23, diwrnod ar ôl i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi ei gyllideb argyfwng.

Mae Palas Buckingham yn pryderu y byddai’n drychineb PR pe bai’r Frenhines yn cael ei gweld yn cael codiad cyflog diwrnod ar ôl i’r canghellor gyhoeddi toriadau anferth i bawb arall.