Mae dros 100 o bobol wedi marw yn dilyn stormydd trofannol yng Nghanolbarth America.

Mae’r awdurdodau yn brwydro i glirio hewlydd er mwyn cyrraedd cymunedau sydd wedi eu taro gan y llifogydd a’r tirlithriadau. Mae’r difrod yn ymestyn o dde Mecsico i Nicaragua.

Erbyn heddiw roedd 112,000 o bobol yn Guatemala wedi cael eu symud, nifer ohonyn nhw i lochesau dros dro. Mae o leiaf 82 o bobol wedi marw yn y wlad, ac mae 53 arall ar goll.

Glaniodd storm drofannol Agatha dydd Sadwrn ar y ffin rhwng Mecsico a Guatemala.

Cafodd wyth o bobol eu lladd yn Honduras, a dywedodd Arlywydd El Salvador, Mauricio Funes, fod naw o bobol wedi marw yno.

“Er bod y storm wedi dechrau gostegu, mae pethau’n dal i fod yn argyfyngus arnom ni,” meddai Mauricio Funes.

Disgwyl mwy o law

Rhybuddiodd Canolfan Corwyntoedd yr Unol Daleithiau yn Miami, Florida bod disgwyl i beth sy’n weddill o’r storm ollwng 10 i 20 modfedd o lawr ar dde-ddwyrain Mecsico, Guatemala ac El Salvador.

Dywedodd Cesar George o sefydliad tywydd Guatemala fod cymuned arfordirol Champerico eisoes wedi derbyn 11.8 modfedd o law mewn 30 awr.

Roedd glaw ynghanol y wlad hefyd wedi achosi llifogydd ar afonydd oedd yn mynd o gyfeiriad y storm i Fôr yr Iwerydd.

Gorlifodd Afon Motagua gan achosi llifogydd i 19 o gymunedau ger ffin gogledd-ddwyreiniol Guatemala gyda Honduras.

Dywedodd awdurdodau El Salvador bod yr Afon Acelhuate sy’n llifo drwy’r brifddinas San Salvador wedi codi i lefel peryglus ac yn bygwth gorlifo drwy’r strydoedd.

Yn 1998 fe wnaeth Corwynt Mitch achosi llifogydd a thirlithriadau a ladd bron i 11,000 o bobol yng nghanolbarth America.