Mae cwmni BP wedi cyfaddef ei fod o’n bosib y bydd yr olew yng Ngwlff Mecsico yn parhau i ollwng tan fis Awst.
Chwe wythnos ar ôl i’r olew ddechrau gollwng mae’r cwmni wedi dweud na fydd y cynllun diweddaraf yn gallu rhwystro’r holl olew rhag dianc.
Methodd cynllun diweddaraf BP, sef gorchuddio’r ffynnon 4,000 troedfedd o ddyfnder gyda mwd a sment, i atal yr olew rhag gollwng.
Y gobaith nawr yw llifio trwy’r bibell sy’n gollwng a rhoi twmffat arno fel bod modd sugno’r olew i mewn i longau ar wyneb y môr.
Ond hyd yn oed os ydi’r cynllun yn llwyddiannus fe fydd o’n dal “mwyafrif” yr olew yn unig. Os ydy o’n methu fe allai llifio’r bibell hyd yn oed waethygu’r broblem.
Ar hyn o bryd mae yna wyriad bach yn y bibell sy’n dal rywfaint o’r olew yn ôl. Fe fyddai torri hwnnw yn golygu bod hyd at 20% yn fwy o olew yn gallu dianc.
Corwyntoedd
Yn y cyfamser maen nhw yn y broses o dyllu dwy ffynnon arall er mwyn atal yr olew rhag gollwng, ond fydd y rheini ddim wedi gorffen am dros ddeufis arall.
“Y ffynnon olew ddiwedd mis Awst fydd diwedd y gêm,” meddai Robert Dudley, rheolwr gyfarwyddwr BP, ar raglen This Week ABC.
Mae hynny’n golygu na fydd y ffynnon olew cyntaf wedi ei gwblhau tan ganol y tymor corwyntoedd, a fydd yn dechrau yfory.
Fe allai’r gwynt wthio’r olew yn ddyfnach i mewn i wlypdiroedd a thraethau’r arfordir.
Dywedodd ymgynghorydd egni’r Tŷ Gwyn, Carol Browner, fod yna fwy o olew yn gollwng i mewn i Gwlff Mecsico nawr nag ar unrhyw adeg arall mewn hanes.
“Mae’n debygol mai dyma’r trychineb amgylcheddol fwyaf ydan ni erioed wedi ei wynebu yn y wlad yma,” meddai.
Dechreuodd yr olew ollwng ar 20 Ebrill, pan ffrwydrodd platfform olew Deepeater Horizon gan ladd 11 o bobol.