Mae swyddogion heddlu yn Bradford yn parhau i chwilio ardaloedd yng nghanol y ddinas ac yn Afon Aire i geisio dod o hyd i gyrff dwy wraig sydd ar goll.

Fe gadarnhaodd llefarydd y byddan nhw’n dal ati tros Ŵyl y Banc ac yn ystod gweddill yr wythnos.

Mae arbenigwyr eisoes yn cynnal profion ar ddarnau o gyrff a gafwyd yn yr afon ddydd Gwener yn agos at y fan lle daethpwyd o hyd i ddarnau o gorff Suzanne Blamires ddydd Mawrth diwetha’.

Maen nhw hefyd yn cynnal profion fforensig ar lond cês o offer a gafwyd yn yr afon dros y Sul.

Y cefndir

Mae myfyriwr 40 oed o’r enw Stephen Griffiths wedi ei gyhuddo o’i llofruddio hi a’r ddwy wraig arall, Shelley Armitage a Susan Rushworth.

Yn y llys ddydd Gwener, fe ddywedodd Griffiths mai ei enw oedd y “crossbow cannibal” ac mae’r Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi bod yn tyllu yng ngardd ei gartref yn Thornton Road.

Dyw’r heddlu ddim yn sicr eto ai corff anifail neu berson a gafwyd ddydd Gwener.

Llun: Yr ardd y tu cefn i gartref Stephen Griffiths (Gwifren PA)