Mae rhagor o bapurau newydd yn dyfalu bod perthynas y gantores Charlotte Church a’r cyn seren rygbi, Gavin Henson, wedi dod i ben.

Mae yna stori am Miss Church a Mr Henson yn y Telegraph ac erthygl hir yn dadansoddi beth aeth o’i le yn y Mail – er nad oes cadarnhad eto bod y stori’n wir.

Y News of the World oedd wedi dechrau pethau ddoe gyda stori bod y ddau wedi gwahanu o fewn chwe wythnos i ddyweddïo.

Bryd hynny, roedd yna 14 o dudalennau o luniau mewn cylchgrawn hel clecs … dyw hi ddim yn glir pwy gafodd yr arian neu a fydd rhaid ei dalu’n ôl.

Yn ôl yr arfer, mae yna ‘ffrindiau’ yn cael eu dyfynnu’n dweud eu bod yn poeni am blant y ddau – Ruby, 2 oed, a Dexter, 1.

Y ddamcaniaeth boblogaidd yw bod y gantores 24 oed wedi cael digon o weld Gavin Henson yn cyfrannu fawr ddim at fywyd y teulu – yn enwedig wrth iddi hi ail-adeiladu ei gyrfa ar y teledu.

Mae’r papurau hefyd wedi penderfynu mai hi fydd yn aros yn eu cartref ‘moethus’ yn Saint-y-brid ym Mro Morgannwg ac y bydd ef yn mynd i’w llong hwylio ym marina Abertawe.

Llun: Charlotte cyn Gavin (Law Keven CCA2.0)