Fe fydd pedwar chwaraewr di-gap yng ngharfan Seland Newydd i wynebu Cymru’r mis nesa’.
Mae’n arwydd fod gan y Teirw Duon nifer o anafiadau a hefyd bod yr hyfforddwr, Graham Henry, yn edrych tua’r dyfodol.
Ond fe fydd llawer o’r enwau mawr yno hefyd, gan gynnwys maswr gorau’r byd, Dan Carter, y capten Richie McCaw a Joe Rokocoko.
Mae’r asgellwr, Rokocoko wedi dod yn ôl i mewn i’r garfan ar ôl cael ei ollwng y llynedd.
Chwaraewr Rhyngwladol y flwyddyn y llynedd yw un o’r wynebau newydd – mae’r maswr Aaron Cruden wedi dod tros ganser y ceilliau i chware rhan allweddol yn llwyddiant yr Hurricanes yn y Super 14.
Y tri arall yw’r cefnwr Israel Dagg, y canolwr Benson Stanley a’r rheng ôl Victor Vito, sydd wedi cêl tymor ardderchog eleni.
Y garfan
Cefnwyr: Mils Muliaina (Chiefs), Cory Jane (Hurricanes), Israel Dagg (Highlanders)* Joe Rokocoko (Blues), Zac Guildford (Crusaders), Conrad Smith (Hurricanes), Benson Stanley (Blues)*, Richard Kahui (Chiefs), Dan Carter (Crusaders), Aaron Cruden (Hurricanes)*, Jimmy Cowan (Highlanders), Piri Weepu (Hurricanes).
Blaenwyr: Tony Woodcock (Blues), Ben Franks (Crusaders), Owen Franks (Crusaders), Neemia Tialata (Hurricanes), Keven Mealamu (Blues), Aled de Malmanche (Chiefs), Anthony Boric (Blues), Brad Thorn (Crusaders), Tom Donnelly (Highlanders), Victor Vito (Hurricanes)*, Richie McCaw (Crusaders, captain), Adam Thomson (Highlanders), Jerome Kaino (Blues), Kieran Read (Crusaders).
Cap newydd*
Llun: Graham Henry