Dwy bartneriaeth o dros 100 oedd achubiaeth Morgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd 363-8 erbyn diwedd ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Surrey.

Ar ôl colli diwrnod cyfan bron echdoe, fe aeth batwyr Morgannwg ati gydag arddeliad yn y bore, gyda Mark Cosgrove a Gareth Rees yn rhannu 135.

Ond wedi iddyn nhw fynd – am 82 ac 86 – fe gollodd Morgannwg gyfres o wicedi cyn cyrraedd 247-6.

Dyna pryd y daeth Mark Wallace a’r bowliwr James Harris at ei gilydd ar gyfer partneriaeth fawr arall.

Erbyn i’r ddau golli eu wicedi ar ddiwedd y dydd, roedd Mark Wallace wedi cael 58 a James Harris un yn brin o’i hanner cant.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill y dydd, roedd pedwar pedwar mewn pelawd gan y batiwr ifanc Ben Wright a phum daliad i wicedwr Surrey, Steve Davies.

Wrth i Forgannwg geisio parhau gyda’u cyfres o fuddugoliaethau, fe fydd rhaid i’r bowlwyr gymryd wicedi cyflym i roi pwysau ar Surrey.

Llun: Y prif sgoriwr, Gareth Rees