Fe ddaeth y Cymro, Rhys Davies, o fewn un ergyd i ennill Pencampwriaeth Golff Agored Madrid.

Roedd yn gyfartal gyda’r enillydd, Luke Donald, gyda thri thwll ar ôl … fe gafodd bluen ar y nesa’, ond fe aeth y Sais un yn well.

Wedi hynny, fe fethodd Davies â chau’r bwlch – fe fyddai buddugoliaeth wedi ei roi yn 50 gorau’r byd am y tro cynta’.

Ond roedd y Cymro’n hapus beth bynnag. “Wnaeth pethau ddim cweit digwydd, ond mae gen i lawer i fod yn falch yn ei gylch,” meddai.

Ddydd Gwener, roedd Rhys Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed ac mae ganddo obaith o fod yn nhîm Ewrop yn y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd yn yr hydref.