Mae olynydd David Laws yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi disgyn yn syth i’r un twll wrth i’r Telegraph ddatgelu manylion chwithig am ei gostau seneddol.

Datgelodd y papur newydd heddiw bod Danny Alexander, cyn Ysgrifennydd yr Alban a gymerodd y swydd pan ymddiswyddodd David Laws dydd Sadwrn, wedi osgoi talu trethi enillion cyfalaf pan werthodd ei ail gartref am elw.

Roedd Danny Alexander wedi dynodi’r tŷ yn ail gartref er mwyn hawlio costau arno ond wedi dweud wrth yr adran Gyllid a Thollau mai hwnnw oedd ei brif gartref.

Neithiwr cyfaddefodd Danny Alexander ei fod wedi cymryd mantais o’r rheolau er mwyn osgoi talu trethi enillion cyfalaf wrth werthu’r tŷ yn ne Llundain am £300,000 ym mis Mehefin 2007.

Mae’r ffaith ei fod wedi osgoi talu trethi enillion cyfalaf yn dod ar amser anodd i’r llywodraeth glymblaid sydd eisiau cynyddu’r union dreth honno yn y gyllideb fis nesaf.

Gobaith y llywodraeth yw cynyddu graddfa’r trethi enillion cyfalaf o 18 y cant i 40 y cant ar gyfer perchnogion ail dai neu dai wedi eu prynu i’w rhentu.

Ymgyrch y Telegraph

Mae’r Daily Telegraph yn ymgyrchu yn erbyn cynllun y llywodraeth i gynyddu graddfa trethi enillion cyfalaf, gan ddweud y byddai’n taro arbedion buddsoddwyr bychan.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi bod yn feirniadol iawn o ASau sy’n osgoi talu trethi enillion cyfalaf ar ail dai sydd wedi eu hariannu gan y trethdalwyr.

Roedd Danny Alexander, AS Inverness, wedi prynu’r tŷ am rhwng £144,000 a £234,000 felly mae o’n debygol o fod wedi gwneud elw sylweddol drwy ei werthu.