Stori oesol ydi un Plant y Fflam a dyna oedd yn treiddio trwy berfformiad llawn hyder a thalent naturiol.

Plentyn diwedd y 70au oedd yr LP wreiddiol, yn llawn symbolau ychydig yn niwlog o ormes gobaith.

Roedd cynhyrchiad y bobol ifanc dan arweiniad Arad Goch yn dal yr ysbryd hwnnw, wrth i’r criw cymeriadau geisio dianc i’r Tir Glas rhag Y Deillion a’r Bleiddiaid sy’n cynrychioli’r byd cyfalafol, milwrol gyda’i gamerâu yn ein gwylio ymhobman.

Os oedd y stori’n brin o ddigwyddiadau pendant ac yn ail-adrodd yr un math o batrwm, roedd y cynhyrchiad yn hynod o fanwl, pob ystum a gair wedi’i weithio a’i amseru’n berffaith.

Roedd teimladau’n mynd trwy’r cast fel ton a’r cydweithio rhyngddyn nhw’n dangos disgyblaeth fawr. Roedd yna sêr – fel yr arwr, Tomi Turner, a’i gariad, Elliw Dafydd – ond gwaith tîm oedd hwn heb neb yn wan.

Fel arfer, mae sioeau cerdd fel hyn ar lwyfan mawr – fel Pafiliwn yr Eisteddfod. Yn Theatr Felinfach, mae’r gynulleidfa’n agos. Mae angen crefft yn ogystal â sioe. Does dim lle i guddio a, y tro yma, doedd dim angen.

Dyna ogoniant y sioe; y dychryn ydi bod y neges yn gweithio heddiw fel yr oedd hi yn 1980.

DI