Fe fydd swyddogion Cyngor Ceredigion yn cael eu cyhuddo o fod yn fôr-ladron unllygeidiog mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn erbyn polisi sydd, medden nhw, yn bygwth 15 o ysgolion cynradd y sir.

Mae’r dadlau ar ei gryfa’ yn ardal Ysgol Dyffryn Teifi, lle mae bwriad i gau rhai ysgolion bach er mwyn creu un campws 3-19.

Mewn tair ardal, mae bwriad i greu ysgolion 3 – 19 oed ac, mewn rhai ardaloedd, fe allai arwain at gau ysgolion bach.

Fe fydd plant yn gwisgo fel môr-ladron ar gyfer y brotest ac yn gorymdeithio at uned y Cyngor ar y maes.

Bygwth cymunedau

Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe, fe apeliodd un o Lywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod ar y Cyngor Sir i bwyllo.

Fe fyddai colli ysgolion bach yng nghylch Llandysul yn bygwth pentrefi, meddai Carol Davies, cyn-brifathrawes Ysgol Capel Cynon,

“Dyw’r môr-ladron yn y Cyngor Sir ddim yn gweld problem gyda gwario llawer iawn o arian ar adeiladau llewyrchus newydd yn Aberystwyth ond, ar yr un pryd, maen nhw’n dadlau ei bod yn gwbl hanfodol safio ychydig iawn o arian trwy gau ysgolion pentref,” meddai Ffred Ffransis o’r Gymdeithas.

“Dyna eu meddylfryd biwrocrataidd a thwp. Mae’n amser iddyn nhw gerdded y planc!”

Llun: Ffred Ffransis