Mae un o ffilmiau mwyaf Hollywood heb gyfarwyddwr ar ôl i Guillermo del Toro gyhoeddi ei fod o’n rhoi’r gorau i’w swydd fel cyfarwyddwr The Hobbit ar y sgrin fawr.

Mae’r ffilm yn seiliedig ar y llyfr o’r un enw, gafodd ei ysgrifennu gan JRR Tolkien cyn iddo ysgrifennu The Lord of the Rings.

Rhyddhawyd ffilmiau Lord of the Rings rhwng 2001 a 2003 ac fe enillodd yr olaf ohonyn nhw 11 Oscar a gwneud dros $1 biliwn ledled y byd.

“Yn sgil yr oedi cyn gosod dyddiad cychwyn ar gyfer ffilmio The Hobbit, rhaid i fi wneud penderfyniad anoddaf fy mywyd,” meddai ‘r cyfarwyddwr o Fecsico, Guillermo del Toro.

“Ar ôl dwy flynedd o fyw a bod byd cyfoethog Tolkien, rhaid i fi roi’r gorau i gyfarwyddo’r ffilmiau gwych yma,” meddai.

Nododd bod MGM, y stiwdio yn Hollywood sy’n berchen ar hawliau’r ffilm, mewn trafferthion ariannol ar hyn o bryd.

“Mae’n amhosib cychwyn ar y gwaith tan fod sefyllfa MGM yn cael ei ddatrys,” meddai. “Maen nhw’n meddu ar gyfran helaeth o’r hawliau.”

Peter Jackson o Seland Newydd wnaeth gyfarwyddo’r triawd gwreiddiol o ffilmiau ond roedd o wedi cymryd cyfrifoldeb cynhyrchydd y tro yma.