Fe fydd plant a phobol ifanc ar faes Eisteddfod yr Urdd yn cael cyfle i roi eu barn ar ostwng yr oed pleidleisio.

Fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal refferendwm anffurfiol i weld a yw pobol ifanc o blaid gostwng yr oed i 16 a hefyd eisiau’r cyfle i bleidleisio’n electronig trwy wefannau cymdeithasol.

Y nod yw annog trafodaeth a chreu diddordeb fel y bydd pobol ifanc yn defnyddio’u pleidlais yn y dyfodol, gan gynnwys yn y refferendwm go iawn ar ddatganoli.

“Mi fydd nifer o bobol ifanc yn cael y cyfle i bleidleisio am y tro cynta’ ac mae’n bwysig eu bod yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfri,” meddai Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas.

Fory, fe fydd y Llywydd yn cwrdd â phleidleiswyr ifanc, gan gynnwys cynrychiolwyr o Fforwm Ieuenctid Ceredigion, er mwyn trafod y pwnc.

Llun: Dafydd Elis-Thomas