Fe allai cymaint ag 16 o bobol fod wedi eu lladd ar ôl i longau a milwyr Israel ymosod ar lynges fechan o gychod cymorth o Dwrci a oedd ar eu ffordd i helpu’r Palesteiniaid yn Gaza.
Mae’r union ffigurau’n amrywio ond mae newyddiadurwr ar fwrdd un o’r cychod yn dweud bod milwyr Israelaidd wedi byrddio un o’r llongau a dechrau saethu gyda bwledi byw.
Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera’n dyfynnu Radio Byddin Israel yn dweud bod 16 wedi marw; mae adroddiadau eraill yn sôn am “o leia’ ddeg” gyda nifer “amhenodol” wedi eu hanafu.
Mae Israel yn gwadu eu bod wedi ymosod ar y fintai o chwe chwch ond yn dweud eu bod wedi arfer eu hawl i atal y llongau rhag mynd i Gaza heb ganiatâd. Maen nhw hefyd yn honni bod pobol ar y llongau wedi ymddwyn yn dreisgar.
Roedd rhai gwleidyddion a chynrychiolwyr rhyngwladol ar fwrdd y llongau, gan gynnwys Mairead Corrigan Maguire, yr enillydd Nobel o Ogledd Iwerddon. Y nod oedd torri rhwystrau Israel, sy;n atal llongau rhag mynd i Gaza.
Ymateb cryf
Eisoes, mae Twrci wedi ymateb yn gryf. Fe gasglodd protestwyr y tu allan i lysgenhadaeth Israel yn ninas Istanbul ac mae’r llysgennad wedi ei alw i roi esboniad i lywodraeth y wlad.
Fe ddaeth beirniadaeth hefyd gan wleidyddion yn Gaza a gan un o arweinwyr y fintai gymorth. Yn ôl Omer Faruk Korkmez, doedden nhw ddim wedi disgwyl digwyddiad o’r fath mewn dyfroedd rhyngwladol – ar y pryd, roedd y cychod tua 40 milltir o’r lan.
“Mae Israel wedi cael ei dal a fydd y gymuned ryngwladol ddim yn maddau iddi,” meddai.
Llun: Rhan o fideo Al Jazeera yn dangos eu gohebydd ar fwrdd un o’r llongau