Fe fydd yr helynt tros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn dod i faes Eisteddfod yr Urdd gyda phrotest gan rieni a phlant y tu allan i uned Llywodraeth y Cynulliad.
Dyma fydd y gynta’ mewn cyfres o brotestiadau, gyda’r ymgyrchwyr yn cyhuddo’r Llywodraeth o ddod â’r Welsh Not yn ôl.
Mae Golwg360 hefyd yn deall bod arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Rodney Berman, yn ystyried o ddifri’ cael arolwg barnwrol o benderfyniad y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Fe wrthododd ef gynllun y Cyngor i gau un o bedair ysgol cyfrwng Saesneg sydd yn ardal Treganna ac i symud yr Ysgol Gynradd Gymraeg i’r adeiladau gwag. Mae’r Ysgol Gymraeg ar hyn o bryd yn llawer rhy llawn.
Welsh Not
“Fe fydd y brotest yn dangos bod y Welsh Not yn cael ei atgyfodi,” meddai un o arweinwyr rhieni Treganna, Nia Williams. “R’yn ni wedi cael ein dal yng nghanol gêm wleidyddol.”
Fe gafodd y rhieni wybod ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ bod Cyngor y Ddinas yn ystyried camau cyfreithiol ac, yn ôl Nia Williams, maen nhw wedi cael cefnogaeth Plaid Cymru ac yn debyg o gael cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.
Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru’n anfodlon hefyd oherwydd honiadau bod y Prif Weinidog wedi mynd yn groes i bolisïau ei Lywodraeth ei hun tros ddatblygu addysg Gymraeg a chael gwared ar lefydd gwag mewn ysgolion.
“Mae e wedi bod yn anghyfrifol,” meddai Nia Williams, gan egluro bod y rhieni’n fwy blin fyth oherwydd nifer o ffactorau.
Pam fod rhieni’n grac
• Oherwydd bod y penderfyniad wedi llusgo am bedair blynedd – hanner oes plentyn mewn ysgol gynradd.
• Am fod y rhesymau am wrthod yn bod pan ddechreuodd y Cyngor drafod gyda’r Llywodraeth.
• Oherwydd bod y ddadl tros gael amodau teilwng i’r ysgol Saesneg yn cael ei diystyru yn achos yr ysgol Gymraeg sy’n gweithio dan amodau llawer gwaeth.
• Am fod rhai gwleidyddion Llafur lleol wedi corddi teimladau cas yn erbyn y Gymraeg.
• Am nad oes pwynt ceisio cenhadu ymhlith rhieni di-Gymraeg, oherwydd y prinder lle.
Y cefndir
Mae’r rhieni Cymraeg yn dadlau bod pedair ysgol gynradd cyfrwng Saesneg mewn cylch bach iawn a’u bod yn gorfod tynnu plant i mewn o ardaloedd eraill er mwyn llenwi.
Dim ond lle i 165 o blant sydd yn Ysgol Gymraeg Treganna, ond me 207 yno ar hyn o bryd. Mae rhai plant lleol wedi methu â chael lle.
Fe gafodd uned ‘gorlif’ ei chreu am ddwy flynedd – mae bellach yn ei phedwaredd blwyddyn ac yn rhoi lle i 77 o blant.
Roedd rhieni Ysgol Lansdowne yn ymgyrchu i’w chadw gan ddweud ei bod yn ysgol arbennig o dda. Fe ddywedodd gwleidyddion Llafur fel Rhodri Morgan na ddylai hybu addysg Gymraeg wneud niwed i addysg trwy’r Saesneg.
Llun: Rodney Berman, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd