Mae gwleidyddion blaenllaw wedi awgrymu y gallai David Laws ddychwelyd i’r llywodraeth yn fuan – er gwaetha’i ymddiswyddiad ar sail camddefnyddio costau seneddol.
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys oedd yr aelod cyntaf o’r llywodraeth glymblaid i orfod ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod degau o filoedd o arian cyhoeddus wedi cael eu talu mewn rhent i ddyn sy’n gariad iddo.
Wrth ei ganmol am wneud y penderfyniad “iawn” ac “anrhydeddus” i ymddiswyddo, mae dau o’i gyn gyd-aelodau cabinet, Iain Duncan Smith a Ken Clarke, wedi mynegi gobaith y gall ddychwelyd yn fuan.
“Roedd yn ddrwg iawn gen i fod y rhaid iddo fynd, ond does dim amheuaeth o gwbl fod ganddo’r ddawn i allu dod yn ôl,” meddai Iain Duncan Smith.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Ken Clarke, mae’n gwbl bosibl y bydd David Laws yn gallu bodloni’r comisiynydd safonau seneddol bod ei awydd i beidio â datgelu ei rywioldeb yn esgusodi ei drefniadau hawlio costau.
Dywedodd y gweinidog Datblygu Rhyngwladol Alan Duncan, yr AS Ceidwadol cyntaf i gyfaddef ei fod yn hoyw, fod David Laws yn “berson hoffus a dawnus”.
“Dw i’n gobeithio y bydd yn ei ôl yn fuan,” meddai.
Wrth dalu teyrnged iddo am ei waith yn ystod ei 17 diwrnod yn ei swydd yn y Trysorlys, dywedodd y Canghellor George Osborne wedi “cael ei roi ar y ddaear” i gyflawni swydd y Prif Ysgrifennydd a lleihau’r ddyled.
Mae sylwadau’r aelodau’n ategu geiriau tebyg o gefnogaeth gan y Prif Weinidog David Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn gynharach.
Llun: David Laws yn Stryd Downing ddydd Iau (Clive Gee/Gwifren PA)