Mae archaeolegwyr wedi darganfod beddrod 3,300 oed yn yr Aifft a oedd wedi bod ar goll o dan dywod yr anialwch ers 125 o flynyddoedd.

Y beddrod oedd man claddu Ptahmes, maer Memphis, prifddinas hynafol yr Aifft, gŵr a wasanaethodd fel pennaeth y fyddin, ceidwad trysorlys ac ysgrifennydd i’r Brenin Seti I a’i fab Ramses II, yn y 13eg ganrif cyn Crist.

Mae’r darganfyddiad mewn mynwent hynafol yn Saqqara, i’r de o Cairo, yn datrys dirgelwch sy’n mynd yn ôl i 1885, pryd y cafodd rhai o’r panelau addurniadol eu dwyn gan gasglwyr trysorau o’r gorllewin.

Ar ôl hynny, aeth lleoliad y bedd yn angof. “Cafodd ei orchuddio gan dywod, a doedd neb yn gwybod amdano,” meddai’r Athro Ola el-Aguizy o brifysgol Cairo, arweinydd y cloddio. “Mae’n bwysig gan mai’r beddrod hwn oedd y beddrod coll.”

Mae’r darnau a gafodd eu dwyn yn 1885 mewn amgueddfeydd yn yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau a’r Eidal yn ogystal ag Amgueddfa’r Aifft yn Cairo.

Mae siambrau mewnol y beddrod a mymi Ptahmes yn dal heb gael eu darganfod.

Llun: Beddrod hynafol Ptahmes, maer Memphis, a oedd wedi bod ar goll o dan dywod yr anialwch ers dros ganrif