Wrth lawenhau ym muddugolaeth y Gweilch yn erbyn Leinster yn Nulyn neithiwr, dywedodd y capten, Ryan Jones fod y gêm mor galed ag unrhyw gêm ryngwladol.
“Roedd hi’n gêm anhygoel o galed yn gorfforol, ac fe wnaeth y bechgyn chwarae’n wych,” meddai.
Ar ôl curo Leinster 17-12, y Gweilch yw pencampwyr Cynghrair Magners am y trydydd tro.
“Roedd yn achlysur ffantastig,” meddai Ryan Jones. “Roedd y cefnogwyr yn wych, mae gennym gnewyllyn o gefnogwyr sy’n ein dilyn ni o gwmpas Ewrop, ac roedd yn dda gallu rhoi perfformiad iddyn nhw. Roedd cefnogwyr Leinster yn wych hefyd, ac yn amlwg yn gwerthfawrogi rygbi da.”
Dywedodd hefyd fod y tîm wedi gwella’n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf, a’i fod yn falch o orffen y tymor mor llwyddiannus.
“Fe wnaethon ni ymladd yn anhygoel o galed i gael rhywfaint o gydnabyddiaeth am yr ymdrech a wnaethon ni eleni, a dw i’n gobeithio y bydd y tlws yma’n mynd ran o’r ffordd tuag at hynny.
“Mae nosweithiau fel heno’n rhoi’r hyder inni ein bod ni’n mynd y ffordd iawn. Rydym wedi curo un o dimau gorau Ewrop – does dim amheuaeth am hynny.”
Lee Byrne a gafodd ei enwi fel Chwaraewr y Gêm:
“Roedd yn rhyddhad ar y diwedd, gan fy mod i’n meddwl eu bod nhw’n dod yn ôl,” meddai. “Mae’n dda cael y canlyniad, fe roddodd rywbeth i’n cefnogwyr lawnhau yn ei gylch.
“Yn bersonol, dw i ddim wedi cael y tymor gorau, felly mae’n braf bod wedi cael perfformiad da heddiw. Fel tîm, roedden ni’n siomedig gyda Biarritz, ond rydym wedi cyflawni rhywbeth y tymor yma.”
Llun: Lee Byrne a Shane Williams yn dathlu ennill Tlws Magners ar ôl y gêm yn Nulyn neithiwr (o wefan y Gweilch)