Mae cyn brif ysgrifennydd y Trysorlys, Liam Byrne, wedi ymddiheuro am ei lythyr a adawodd i’w olynydd yn rhybuddio nad oedd “dim arian” ar ôl.
Roedd y llythyr wedi arwain at gyhuddiadau nad oedd Llafur yn cymryd dyledion y llywodraeth o ddifri.
Roedd y llythyr yn darllen: “Annwyl brif ysgrifennydd, mae gen i ofn nad oes dim arian. Cofion gorau – a lwc dda! Liam.”
Cyfaddefodd Liam Byrne heddiw iddo fod yn “ffôl” i ysgrifennu’r llythyr a’i adael ar ddesg ei olynydd byrhoedlog David Laws.
“Y gwir yw fod hiwmor du rhwng gwleidyddion yn San Steffan hyd yn oed pryd yr ydych chi yng ngyddfau’ch gilydd,” meddai Liam Byrne, sy’n Aelod Seneddol dros Birmingham Hodge Hill.
“Fe wnes i dorri’r rheol euraid o beidio ag ysgrifennu dim byd i lawr nad fyddech chi’n hapus o’i weld yn gyhoeddus, ac mae’n ddrwg gen i ymddangos fel petawn i’n gwamalu ynghylch y ddyled.
“Mae pawb a weithiodd gyda mi yn y Trysorlys yn gwybod fy mod i’n cymryd lleihau’r ddyled yn gwbl ddifrifol.”
Llun: Liam Byrne (Lewis Whyld/Gwifren PA)