Mae’r cwmni cynnyrch llaeth Rachel’s Organig o Aberystwyth ar fin cael ei roi ar y farchand am bris o £20 miliwn.

Mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol gan Rachel Rowlands ar fferm y teulu, Brynllys, wedi bod yn eiddo i Dean Foods o’r Unol Daleithiau ers 2004.

Mae Rachel’s Organic yn un o’r cynhyrchwyr bwydydd organig hynaf ym Mhrydain, drwy fod Brynllys yn fferm organig ers yr 1950au, ar ôl i fam Rachel Rowlands fod yn un o’r rhai cyntaf i ymuno â’r Soil Association.

Ar ôl gwerthu llaeth organig i’r Bwrdd Marchnata Llaeth am flynyddoedd, daeth y cwmni i amlygrwydd yn yr 1980au fel cynhyrchwyr iogwrt organig.

Ehangodd y cwmni’n gyflym rhwng 1985 ac 1990, gyda llaethdy newydd yn cael ei godi a’u cynnyrch yn cael eu gwerthu i’r prif archfarchnadoedd.

Fe wnaeth y teulu werthu’r cwmni yn 1999 i Horizon Organic Dairy, cyn i’r perchnogion presennol ei brynu yn 2004.