Gydag un rownd i fynd yng nghystadleuaeth golff y Madrid Masters, y Cymro Rhys Davies a’r Sais Luke Donald yw’r ddau sydd ar y blaen – gyda sgôr gyfartal o 16 islaw par yr un.

Llwyddodd y Cymro, sydd eisoes wedi ennill cystadleuaeth ym Moroco’r tymor hwn, i gael dau byrdi’n olynol ddoe – o wyth troedfedd yn yr 16eg twll, ac o 12 troedfedd yn yr 17eg.

Roedd ei rownd yn cynnwys wyth byrdi, ond cafodd bogi yn y trydydd twll, a bogi dwbl yn y seithfed.

“Fe wnes i ddau gamgymeriad bach iawn, ond fe ges i fy nghosbi’n llym am y ddau,” meddai. “Ond mae ffordd bell i fynd o hyd.”

Mae’r Eidalwr Francesco Molinari yn y trydydd safle ddau ergyd ar eu hôl, ac Alvaro Quiros yn bedwerydd a’r Sais Graeme Storm yn bumed.

Llun: Rhys Davies, y golffiwr o Ben-y-bont ar Ogwr