Er iddo guro’i gyd-Gymro Jamie Arthur yn rownd gyn-derfynol y Prizefighter, methodd y bocsiwr Ricky Owen â chymryd rhan yn yr ornest derfynol oherwydd toriad drwg a ddioddefodd.

Cafodd yr Albanwr Paul McElhinney fynd trwodd yn ei le, ond cael ei guro a wnaeth hwnnw gan y Gwyddel Willie ‘Big Bang’ Casey, sy’n ennill £32,000 yn ogystal â theitl pwysau Super-Bantam y Prizefighter.

Roedd Ricky Owen wedi ennill y rownd gyn-derfynol o 27-30, 28-29, 28-29.

Er iddo gael toriad drwg ar ei amrant dde cyn diwedd y rownd gyntaf, ni rwystrodd hynny iddo rhag siglo Arthur gydag ergyd o’r chwith yn yr ail rownd – ergyd a oedd ond y dim i lorio’i wrthwynebydd.

Ef oedd yr enillydd clir trwy benderfyniad unfrydol wrth iddo lwyddo i ergydio mwy na’i wrthwynebydd trwy’r ornest.

Erbyn y diwedd, fodd bynnag, roedd y toriad ar ei amrant mor ddrwg fel na allodd gymryd rhan yn y rownd derfynol. Roedd mewn dagrau, a’i ben yn ei ddwylo wrth i’r eilydd Paul McElhinney ennill ei le yn y rownd derfynol trwy dafliad ceiniog.

Cyn yr ornest roedd y bocsiwr o Abertawe wedi dweud mai ymladd er cof am ei rieni y byddai neithiwr, gan ei fod yn awyddus i’w gwneud nhw’n falch ohono.

Llun: Ricky Owen (Gwefan Prizefighter)