Leighton Andrews
Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, sy’n esbonio pwysigrwydd hanesyddol penderfyniad Leighton Andrews ar y safonau iaith newydd – sef dyletswyddau ar gyrff a rhai cwmnïau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg – wedi iddo wrthod argymhellion manwl Comisiynydd y Gymraeg. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd â Leighton Andrews heddiw (dydd Iau, 2 Mai).

Yn nwylo Leighton Andrews mae un o’r penderfyniadau pwysicaf a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy. Mae’r safonau iaith newydd yn offeryn statudol fydd yn llywio holl ddarpariaeth Gymraeg cyrff a chwmnïau ac maent yn hollbwysig i obeithion pawb yng Nghymru i sicrhau twf yn yr iaith.

Mae llawer iawn yn y fantol.

Gall y safonau sicrhau pethau cwbl sylfaenol, fel bod plant yn gallu cael gwersi chwaraeon yn Gymraeg, bod pobl hŷn cael mynediad at ofal yn yr iaith, a bod gan weithwyr yr hawl i’w siarad â’i defnyddio yn y gwaith. Gallai’r safonau newydd weddnewid eu bywydau, a thrwy hynny, gallent sbarduno twf yn y niferoedd sy’n gallu’r Gymraeg ac yn ei defnyddio bob dydd.

Mae’n hawdd anghofio mai pobl ar lawr gwlad yw canolbwynt y ddadl, nid gemau gwleidyddol Bae Caerdydd.

Ni ddylai’r gweision sifil, na’r gwleidyddion, fyth anghofio pobl fel:

– y gweithwyr sydd yn cael eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yn y gweithle.

– y plant niferus, o Aberystwyth i Abercynon ac o Rydaman i’r Rhos, sy’n methu cael gwersi nofio yn Gymraeg.

– yr holl bobl ifanc sydd â sgiliau yn y Gymraeg yn gadael Cymru i chwilio am waith, tra, ar yr un pryd, bod cyrff a chwmnïau yn methu cyflenwi gwasanaethau yn Gymraeg.

– y gweithwyr a’r plant nad oes y cyfle ganddynt i ddysgu Cymraeg yn rhugl

– y bobl ifanc nad ydynt yn gweld yr iaith fel un fodern oherwydd nad oes rhyngwyneb Cymraeg ar yr iPad na ffonau symudol

– y cleifion, rhai ohonynt yn eu cyfnodau mwyaf bregus, sydd yn dioddef oherwydd nad oes gweithiwr iechyd sydd yn siarad Cymraeg.

‘Oedi’n gwbl annerbyniol’

Mae pobl Cymru wedi aros llawer yn rhy hir am well gwasanaethau Cymraeg: tair blynedd ar ddeg ers i’n hymgyrch dros ddeddf iaith newydd gychwyn, pum mlynedd ers i’r broses ddeddfu dechrau, a thros ddwy flynedd ers pasio Mesur y Gymraeg yn y Cynulliad.

Mae’r oedi’n gwbl annerbyniol, ac yn awgrymu llusgo traed a diffyg blaenoriaethu’r Gymraeg gan y Llywodraeth. Mae’r holl oedi yn dod wedi i ni, a llawer o bobl eraill, ddisgwyl yn hir ac ymrwymo’n llwyr i’r broses ddemocrataidd.

Ar y pryd, Mesur y Gymraeg oedd y darn o ddeddfwriaeth hiraf a mwyaf cymhleth a fu dan ystyriaeth y Cynulliad Cenedlaethol – enghraifft arall o ymrwymiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymdrechu i bwyso ar y Cynulliad er lles yr iaith. Bu ymgyrch fawr gyhoeddus y tu ôl i’r Mesur hwnnw, gyda chytundeb eang yn y diwedd fod angen statws swyddogol, Comisiynydd cryf a hawliau i’r Gymraeg, fel amlinellwyd yn y cynigion a gyhoeddwyd gennym yn 2006. Fodd bynnag, er gwaethaf yr holl frwydro – am dros ddegawd – rydym yn aros am well gwasanaethau Cymraeg o hyd.

‘Angen cryfhau cynigion y Comisiynydd’

Y llynedd, bu ymgynghoriad arall ar gynigion am y safonau iaith, y tro hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Fel cannoedd o gyrff eraill, ymatebon ni i’r ymgynghoriad. Er nad oedd safonau’r Comisiynydd, yn ein tyb ni, yn ddigon cryf, maent o leiaf yn pwysleisio mai ar y cyrff eu hunain y dylai’r cyfrifoldeb i ddarparu er lles y bobl fod, yn hytrach na bod y dinesydd yn gorfod brwydro trwy’r adeg.

Mae cynigion Meri Huws hefyd yn sefydlu’r egwyddor y dylid darparu isafswm o wasanaethau yn Gymraeg ledled y wlad – o Fôn i Fynwy. Mae gwir angen cryfhau cynigion y Comisiynydd, nid eu gwanhau.

Pryderwn, fel awgrymir gan lythyr diweddar y Gweinidog at y Comisiynydd, fod penderfyniad Leighton Andrews i wrthod y safonau iaith arfaethedig yn mynd i arwain at wanhau, yn hytrach na chryfhau, y cynigion a gyhoeddwyd ganddi ym Mis Tachwedd y llynedd.

‘Penderfyniadau dewr’

Yr hyn rydyn ni eisiau gweld y Gweinidog yn ei sefydlu yw hawliau penodol, megis yr hawl i addysg Gymraeg, yr hawl i ofal iechyd, yr hawl i weithio yn Gymraeg, er mwyn newid profiad bob dydd pobl. Dylai’r safonau hefyd sicrhau bod rhagor o gyrff, rhai awdurdodau lleol yn enwedig, yn dilyn enghraifft Cyngor Gwynedd ac yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Heb amheuaeth, mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dangos i’r Llywodraeth bod angen newidiadau polisi pendant, a phenderfyniadau dewr er mwyn cryfhau’r Gymraeg. Gobeithiwn fod Leighton Andrews yn barod i gymryd y camau heriol hyn – wedi’r cwbl mae’r penderfyniad sydd yn ei ddwylo yn un hynod o bwysig i’n hiaith genedlaethol unigryw.

Robin Farrar

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg