Bydd pobol Ynys Môn yn bwrw eu pleidlais heddiw yn etholiadau’r cyngor sir.

Mae 106 o ymgeiswyr mewn 11 ward yn cystadlu am 30 o seddau.

Mae’r etholiadau’n cael eu cynnal flwyddyn ar ol gweddill Cymru a hynny am fod Cyngor Ynys Môn wedi cael ei redeg gan gomisiynwyr Llywodraeth Cymru yn hytrach na chynghorwyr yn dilyn blynyddoedd o anghydweld o fewn y cyngor sir.

Mae hefyd yn dilyn ad-drefnu ffiniau’r sir, a bydd tri chynghorydd yn cael eu hethol i wyth o’r wardiau, a dau gynghorydd ar gyfer y wardiau eraill.

Mae’r Swyddog Canlyniadau Richard Parry Jones yn annog trigolion i chwarae eu rhan wrth ethol Cyngor Sir Ynys Môn newydd.

17% o’r etholaeth sydd wedi cofrestru sydd wedi pleidleisio trwy’r post hyd yma.

Fe fydd pleidleiswyr hefyd yn ethol cynghorwyr pedwar o gynghorau tref a chymuned heddiw.

Clymbleidio

Mae Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi gwrthod y syniad o gydweithio gyda’r blaid asgell dde, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y byddan nhw’n “ystyried pob opsiwn,” tra bod Llafur wedi dweud y byddan nhw’n clymbleidio “os oes rhaid.”

Mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi mynegi pryder y byddan nhw’n rhannu’r pleidleisiau gydag UKIP, sydd hefyd yn gobeithio ffurfio grŵp ar y Cyngor.

Dywedodd  Richard Parry Jones: “Ceir cystadlu brwd ym mhob un o wardiau newydd sirol Ynys Môn yn ystod yr etholiadau pwysig yma ac mae’n hanfodol bod yr etholaeth yn chwarae ei ran yn y broses ddemocrataidd drwy fwrw eu pleidleisiau ddydd Iau.”

Mae rhestr lawn o’r ymgeiswyr ar wefan y Cyngor Sir, www.ynysmon.gov.uk/etholiadaucyngorsir.