Stadiwm y Mileniwm
Fe fydd portread o’r Frenhines sydd wedi cael ei gomisiynu ar gyfer y Jiwbilî eleni yn cael cartref newydd yn Stadiwm y Mileniwm.
Cafodd Dan Llywelyn Hall ei gomisiynu i gwblhau’r gwaith, ac fe gafodd y portread ei ddadorchuddio gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones heddiw.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod y darlun ar ffurf “mynegiannol”.
Mae yna le i gredu mai Dan Llywelyn Hall yw’r arlunydd ieuengaf i lunio portread o’r Frenhines, sy’n noddwr ar Undeb Rygbi Lloegr.
‘Eicon’ yw enw’r darlun.
Cafodd e’r cyfle i ddarlunio’r Frenhines mewn ystafell yng Nghastell Windsor, sydd hefyd yn gartref i ddarluniau gan Hall o ddau o filwyr yr Ail Ryfel Byd, Henry Allingham a Harry Patch.
Mae darnau o’i waith hefyd wedi cael eu harddangos yn Oriel Genedlaethol Cymru a’r Imperial War Museum yn Llundain.
Bydd dathliadau’r Jiwbilî ar Fehefin 2.
‘Braint o’r mwyaf’
Dywedodd Dan Llywelyn Hall: “Mae cael eistedd gyda’r Frenhines yn uchelgais sydd wedi cael ei wireddu ac fe fu’n fraint o’r mwyaf cael cais i greu’r gwaith hwn.
“Fel y mae unrhyw un sydd wedi cyfarfod â’i Mawrhydi yn gwybod, mae’n ysbrydoledig cael bod yn ei phresenoldeb ac ro’n i am ail-greu’r teimlad hwnnw yn ogystal â dangos ochr ddynol personoliaeth y Frenhines.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Wrth gomisiynu arlunydd Cymraeg ar gyfer y gwaith hwn, a darparu cartref parhaol yn adeilad eiconig Stadiwm y Mileniwm, mae Undeb Rygbi Cymru yn cydnabod y rhan bwysig maen nhw’n chwarae yn ein diwylliant ac yn ei ddangos i’r byd.”
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Mae Undeb Rygbi Cymru yn cymryd ei le unigryw yng ngwneuthuriad diwylliannol Cymru.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Undeb Rygbi Cymru wedi annog arlunwyr ifainc i fynegi’r berthynas hon mewn amryw o wahanol ffyrdd.
“Bydd gwaith Dan, yn ddiau, yn datblygu ymrwymiad rygbi Cymru i gefnogi doniau ein cenedl.”